Erbyn hyn, rydych chi'n ymwybodol o ba mor gymhleth yw poen parhaus, gyda llawer o wahanol systemau i gyd yn cymryd rhan mewn cynyddu a lleddfu ein poen. Fe wnaethom gyflwyno pŵer ein meddyliau a'n hemosiynau yn gynharach yn y rhaglen ac yn ystod y modiwl hwn byddwn yn treulio rhywfaint mwy o amser yn ystyried hyn gan ddefnyddio model Therapi Ymddygiad Gwybyddol (CBT). Byddwch yn cael cyfleoedd i ystyried eich cylchoedd meddyliau eich hun a myfyrio ar effaith eich meddwl ar eich profiad poen eich hun.