
Yn y modiwl hwn byddwn yn ystyried effaith eich poen ar bobl eraill. Gall byw gyda phoen effeithio nid yn unig arnoch chi, ond ar y rhai sy'n agos atoch chi. Gall cyfathrebu mewn ffordd onest ac agored helpu eraill o'ch cwmpas i ddeall yn well sut y gallant eich cefnogi yn fwyaf effeithiol. Yn ystod y modiwl hwn rydym yn eich helpu i ddeall sut y gall poen effeithio ar berthnasoedd a byddwn yn rhannu rhai technegau i wella cyfathrebu ag eraill.