Nawr eich bod chi'n dechrau sylweddoli y gellir mwynhau bywyd, hyd yn oed gyda phoen, rydyn ni'n dechrau archwilio'r hyn sy'n wirioneddol bwysig i chi - y pethau pwysig yn eich bywyd a allai fod wedi'u hesgeuluso am ychydig. Mae'r modiwl hwn yn rhoi cyfle i chi gymryd amser i fyfyrio ar eich gwerthoedd eich hun, yr hyn yr hoffech chi weithio tuag ato wrth i ni dynnu at ddiwedd y rhaglen a sut y gallwch chi barhau i wella ac adeiladu eich pecyn cymorth rheoli poen eich hun.